2022 Rhif 1330 (Cy. 269)
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mewnforio Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel Nad Ydynt yn Dod o Anifeiliaid) (Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793) (Cymru) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
- Erthyglau 47(2)(b) a 54(4)(a) a (b) o Reoliad (EU) 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion1;
- Erthygl 53(1)(b) o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd2.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 144(7) o Reoliad (EU) 2017/625, cyn gwneud y Rheoliadau hyn mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r cyrff a’r personau hynny yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae’n debygol y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt yn sylweddol ac unrhyw gyrff neu bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.