2022 Rhif 132 (Cy. 42)
Rheoliadau Ceisiadau am Gymorth Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Disgyblion mewn Sefydliadau Addysgol) (Cymru) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pŵer a roddir gan Erthygl 25(b) o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol1, fel y’i darllenir gydag Erthygl 3(5)(c)(i)(bb) o’r Rheoliad hwnnw2.
Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ceisiadau am Gymorth Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Disgyblion mewn Sefydliadau Addysgol) (Cymru) 2022.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Mawrth 2022.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 2017/39 o ran Cymru2
1
Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/39 ar reolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran cymorth Undeb ar gyfer cyflenwi ffrwythau a llysiau, bananas a llaeth mewn sefydliadau addysgol4 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn Erthygl 45, ym mharagraff 6—
a
ar ôl “evidence” yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “held available for the relevant authority”,
b
hepgorer y geiriau o “The relevant authority shall specify” hyd at “aid applications.”
3
Yn Erthygl 96, hepgorer paragraff 2.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)