Rheoliad newydd 55A4
Ar ôl rheoliad 55 (y Tariff Cyffuriau a thâl ar gyfer fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG) mewnosoder—
Ad-daliad sero neu nominal am gost y cynnyrch ar gyfer brechlynnau rhag y coronafeirws, meddyginiaethau gwrthfeirol yn erbyn y coronafeirws a brechlynnau rhag feirws y ffliw55A
1
Yn achos y cyffuriau neu’r meddyginiaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt, rhaid i awdurdodau penderfynu sicrhau, o ran penderfyniadau o dan adran 88 o Ddeddf 2006 (tâl ar gyfer personau sy’n darparu gwasanaethau fferyllol) mewn cysylltiad â thâl fferyllol sy’n ymwneud â chyflenwi neu roi’r cyffuriau hynny neu’r meddyginiaethau hynny, naill ai—
a
nad ydynt yn darparu, nac yn caniatáu, i unrhyw ad-daliad gael ei dalu am gost y cyffur neu’r feddyginiaeth (ac felly pris sylfaenol y cyffur neu’r feddyginiaeth, at ddibenion y Tariff Cyffuriau, yw sero), neu
b
nad ydynt ond yn darparu, neu ond yn caniatáu, i ad-daliad nominal gael ei dalu am gost y cyffur neu’r feddyginiaeth.
2
Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
a
i gyffur neu feddyginiaeth a ddefnyddir i frechu neu imiwneiddio pobl rhag y coronafeirws (“brechlyn rhag y coronafeirws”), os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (3) wedi eu bodloni,
b
i gyffur gwrthfeirol neu feddyginiaeth wrthfeirol a ddefnyddir i atal neu drin y coronafeirws (“meddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws”), os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (4) wedi eu bodloni, neu
c
i gyffur neu feddyginiaeth a ddefnyddir i frechu neu imiwneiddio pobl rhag feirws ffliw (“brechlyn rhag y ffliw”), os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (5) wedi eu bodloni.
3
Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—
a
bod naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu brechlynnau rhag y coronafeirws i’w cyflenwi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,
b
bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau i’r cyfan neu ran o’r stoc o frechlynnau rhag y coronafeirws, a brynwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a), gael ei chyflenwi i fferyllwyr GIG, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy gyfryngwr, heb gost i’r fferyllwyr GIG,
c
bod Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer rhoi brechlynnau rhag y coronafeirws o’r stoc a grybwyllir yn is-baragraff (b) yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir iddynt gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 o Ddeddf 2006 (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol), a
d
bod y brechlyn rhag y coronafeirws o dan sylw yn dod o’r stoc honno a’i fod yn cael ei roi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.
4
Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—
a
bod naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu meddyginiaethau gwrthfeirol yn erbyn y coronafeirws o fath penodol i’w cyflenwi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,
b
bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau i’r cyfan neu ran o’r stoc o’r math penodol hwnnw o feddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws, a brynwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a), gael ei chyflenwi i fferyllwyr GIG, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy gyfryngwr, heb gost i’r fferyllwyr GIG, ac
c
o ran y feddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws o dan sylw—
i
ei bod yn dod o’r stoc honno, neu
ii
nad yw’n dod o’r stoc honno ond serch hynny ei bod y math penodol o feddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws sydd ar gael heb gost i fferyllwyr GIG o dan y trefniadau a grybwyllir yn is-baragraff (b).
5
Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—
a
bod naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu brechlynnau rhag feirws y ffliw i’w cyflenwi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,
b
bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau i’r cyfan neu ran o’r stoc o frechlynnau rhag feirws y ffliw, a brynwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a), gael ei chyflenwi i fferyllwyr GIG, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy gyfryngwr, heb gost i’r fferyllwyr GIG,
c
bod Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer rhoi brechlynnau rhag feirws y ffliw o’r stoc a grybwyllir yn is-baragraff (b) yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir iddynt gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 o Ddeddf 2006 (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol), a
d
bod y brechlyn rhag feirws y ffliw o dan sylw yn dod o’r stoc honno a’i fod yn cael ei roi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.
6
At ddibenion paragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru briodweddu’r math penodol o feddyginiaethau gwrthfeirol yn erbyn y coronafeirws sydd ar gael heb gost i fferyllwyr GIG drwy gyfeirio at y modd y cyflwynir y cyffur neu’r feddyginiaeth yn unig (yn ogystal â thrwy gyfeirio at gynhwysyn actif y cyffur neu’r feddyginiaeth, cryfder y cyffur neu’r feddyginiaeth, neu unrhyw briodweddau eraill sy’n hynodi’r cyffur neu’r feddyginiaeth, neu gyfuniad o unrhyw rai o’r priodweddau hynny).
7
Er mwyn osgoi amheuaeth, caniateir serch hynny i benderfyniadau o dan adran 88 o Ddeddf 2006 nad ydynt, yn unol â’r rheoliad hwn—
a
yn darparu, nac yn caniatáu, i unrhyw ad-daliad gael ei dalu am gost cyffur neu feddyginiaeth (ac felly pris sylfaenol y cyffur neu’r feddyginiaeth, at ddibenion y Tariff Cyffuriau, yw sero), neu
b
ond yn darparu, neu ond yn caniatáu, i ad-daliad nominal gael ei dalu am gost cyffur neu feddyginiaeth,
ddarparu neu ganiatáu i dâl gael ei dalu am unrhyw wasanaeth a ddarperir gan fferyllydd GIG y cyflenwir neu y rhoddir y cyffur neu’r feddyginiaeth fel rhan ohono.
8
Yn y rheoliad hwn—
a
ystyr “ad-daliad nominal”, yn achos cyffur sydd wedi ei ddarparu neu feddyginiaeth sydd wedi ei darparu heb gost i fferyllydd GIG, yw talu swm sy’n cael ei dalu yn lle’r swm y byddai’r fferyllydd GIG fel arfer yn ei ennill o’r gwahaniaeth rhwng—
i
y swm a dalodd am y cyffur pan wnaeth ei brynu neu am y feddyginiaeth pan wnaeth ei phrynu, a
ii
y swm a delir iddo gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol mewn cysylltiad â chost y cyffur hwnnw neu’r feddyginiaeth honno (gan amlaf y pris sylfaenol a restrir yn y Tariff Cyffuriau), os yw’n cyflenwi neu’n rhoi’r cyffur hwnnw neu’r feddyginiaeth honno o dan drefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol, a
b
mae i “gwasanaeth iechyd” yr ystyr a roddir i “health service” yn adran 206(1) o Ddeddf 2006.