(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1073 (Cy. 241)) (“y Rheoliadau Fferyllol”). Mae’r Rheoliadau Fferyllol yn llywodraethu’r modd y darperir gwasanaethau fferyllol fel rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru o dan Ran 7 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“y Ddeddf”).
Mae’r cynllun ar gyfer talu am wasanaethau fferyllol a gwasanaethau fferyllol lleol yn Rhan 7 o’r Ddeddf wedi ei sylfaenu ar y sail y bydd yr awdurdodau penderfynu ar gyfer tâl fferyllol fel arfer yn cynnwys, yn y taliadau am y gwasanaethau hynny, swm sydd mewn cysylltiad â’r pris a dalwyd (ond sydd fel arfer ychydig yn fwy na’r pris hwnnw) gan ddarparwyr gwasanaethau pan wnaethant brynu’r eitemau presgripsiwn y maent yn eu cyflenwi neu’n eu rhoi i gleifion GIG. Fodd bynnag, mae pwerau yn Rhan 7 i alluogi dewisiadau eraill heblaw’r trefniadau tâl arferol hyn o dan rai amgylchiadau.
Mae rheoliad 4 yn mewnosod rheoliad newydd 55A yn y Rheoliadau Fferyllol sy’n darparu, pan fo Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu brechlynnau rhag y coronafeirws, meddyginiaethau gwrthfeirol yn erbyn y coronafeirws neu frechlynnau rhag y ffliw yn ganolog, ac y rhoddir y cynhyrchion hynny ar gael i fferyllfeydd cymunedol heb gost, fod yr awdurdodau penderfynu ar gyfer tâl fferyllol i osod pris ad-dalu o sero neu bris nominal ar gyfer y GIG am y cynhyrchion hynny, os yw amodau penodol wedi eu bodloni. Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal yr awdurdodau penderfynu rhag talu fferyllfeydd cymunedol am y gwasanaethau (megis gwasanaethau proffesiynol) y maent yn eu darparu ar y cyd â chyflenwi neu roi’r brechlynnau hynny neu’r meddyginiaethau gwrthfeirol hynny.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.