(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae paragraff 5(1B) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“y Ddeddf”) yn darparu y caiff cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru (“awdurdod bilio”) gyflwyno hysbysiad i bersonau penodol yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â hereditament yn ardal yr awdurdod bilio hwnnw. Mae’r personau hynny’n cynnwys person sy’n cynnal busnes mewn perthynas â’r hereditament hwnnw, o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu disgrifiadau o’r mathau o fusnes a gynhelir gan berson mewn perthynas â hereditament.
Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y caiff awdurdod bilio beri bod hysbysiad yn cael ei gyflwyno i berson y mae paragraff 5(1D) o Atodlen 9 i’r Ddeddf yn gymwys iddo.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.