2022 Rhif 1307 (Cy. 263)
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2022
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 5(1D)(c) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881, ac a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraffau 5F(1) a 5F(2)(b)2 o’r Atodlen honno ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy3.
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 143(9AZA) o’r Ddeddf honno4.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2022.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod bilio” (“billing authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 20005;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” yn adran 64 o’r Ddeddf.
Disgrifiad o bersonau y mae’n ofynnol iddynt ddarparu gwybodaeth3
At ddiben paragraff 5(1D)(c) o Atodlen 9 i’r Ddeddf, caiff awdurdod bilio gyflwyno hysbysiad i berson sy’n cynnal busnes fel—
a
person sy’n darparu gwasanaethau sy’n ymwneud ag ardrethu annomestig i berson o fewn paragraff 5(1D)(a) a (b) o Atodlen 9 i’r Ddeddf;
b
ymgymerwr dŵr neu ymgymerwr carthffosiaeth o fewn ystyr Deddf y Diwydiant Dŵr 19916;
c
trawsgludwr nwy o fewn yr ystyr a roddir i “gas transporter” gan adran 7 (trwyddedu trawsgludwyr nwy cyhoeddus) o Ddeddf Nwy 19867;
d
cyflenwr nwy o fewn yr ystyr a roddir i “gas supplier” gan adran 7A (trwyddedu cyflenwyr nwy a chludwyr nwy) o Ddeddf Nwy 19868;
e
dosbarthwr trydan o fewn yr ystyr a roddir i “electricity distributor” gan adran 6 (trwyddedau sy’n awdurdodi cyflenwi, etc.) o Ddeddf Trydan 19899;
f
cyflenwr trydan o fewn yr ystyr a roddir i “electricity supplier” gan adran 6 o Ddeddf Trydan 198910;
g
darparwr cyfathrebiadau cyhoeddus o fewn yr ystyr a roddir i “public communications provider” gan adran 151(1) (dehongli Pennod 1) o Ddeddf Cyfathrebiadau 200311.
Cyflwyno hysbysiadau4
1
Heb ragfarnu adran 233 o Ddeddf Llywodraeth Leol 197212 (cyflwyno hysbysiad gan awdurdodau lleol) ac yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff awdurdod bilio gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae paragraff 5(1D) o Atodlen 9 i’r Ddeddf yn gymwys iddo—
a
drwy ei ddanfon â llaw i’r person;
b
drwy ei adael ym mhriod gyfeiriad y person;
c
drwy ei anfon i briod gyfeiriad y person drwy’r post;
d
drwy ei anfon at y person drwy gyfathrebiad electronig.
2
At ddibenion paragraff (1), priod gyfeiriad person yw—
a
yn achos corff corfforedig, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;
b
yn achos partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;
c
yn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys olaf y person.
3
Mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddanfon â llaw o dan baragraff (1)(a)—
a
yn achos corff corfforedig, os yw’n cael ei ddanfon â llaw i ysgrifennydd neu glerc y corff;
b
yn achos partneriaeth, os yw’n cael ei ddanfon â llaw i bartner neu berson sydd â rheolaeth dros fusnes y bartneriaeth neu sy’n rheoli busnes y bartneriaeth.
4
Pan fo unrhyw hysbysiad i’w gyflwyno i berson a bennir ym mharagraff 5(1D)(a) neu (b) o Atodlen 9 i’r Ddeddf, caniateir cyfeirio’r hysbysiad hwnnw at “perchennog” neu “meddiannydd” yr hereditament, heb enw na disgrifiad pellach.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)