NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (“Rheoliadau 2021”).

Mae rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2021 er mwyn newid y dyddiad gweithredu ar gyfer rheoliadau 4 ac 36 o Reoliadau 2021 o 1 Ionawr 2023 i 30 Ebrill 2023 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn parth perygl nitradau (“PPN”).

Mae rheoliad 2(3) yn mewnosod diffiniad o “map mynegai PPN”.

Mae rheoliad 2(4) yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2021 fel bod y terfyn uchaf o 170kg yr hectar o nitrogen mewn tail da byw yn gymwys i bob cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN.

Mae rheoliad 2(5) yn diwygio rheoliad 36 o Reoliadau 2021 fel bod y cyfnod cadw cofnodion perthnasol yn adlewyrchu’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill o dan reoliad 4 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN. Mae hefyd yn ei gwneud yn glir mai’r cyfnod cadw cofnodion perthnasol cyntaf ar gyfer meddianwyr daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN yw 30 Ebrill 2023 i 29 Ebrill 2024.

Mae rheoliad 2(6) a (7) yn cywiro gwallau yn Atodlenni 1 a 3 yn y drefn honno i Reoliadau 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.