Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 13 (Cy. 7)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022

Gwnaed

5 Ionawr 2022

Yn dod i rym

7 Ionawr 2022

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod camgymeriad wedi digwydd wrth lunio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021(1) a wnaed o dan adran 37(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”).

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol cywiro’r camgymeriad hwnnw ac yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pŵer a roddir gan adran 43(10) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

Diwygio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021

2.—(1Mae’r Tabl yn yr Atodlen (enwau ac ardaloedd wardiau etholiadol a nifer aelodau’r cyngor) i Orchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yng ngholofn (3), yn lle “Cymuned Marchwiel” rhodder “Cymunedau Erbistog, Marchwiel a Sesswick”.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

5 Ionawr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021 (“Gorchymyn 2021”), sy’n gweithredu’r argymhellion ar gyfer newidiadau i drefniadau etholiadol Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel yr oeddent wedi eu cynnwys yn Adroddiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru dyddiedig mis Tachwedd 2020 (“yr Adroddiad”), gydag addasiadau.

Mae’r Tabl yn yr Atodlen i Orchymyn 2021 (“y Tabl”) yn nodi’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir yng ngholofn 3 o’r Tabl. Drwy gamgymeriad hepgorodd yr Adroddiad wybodaeth benodol mewn perthynas â ward etholiadol Marchwiel, ac o ganlyniad nid oedd yr wybodaeth honno wedi ymddangos yng ngholofn 3 o’r Tabl. Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn cywiro’r camgymeriad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.