Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 9 Rhagfyr 20222

Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i rym ar 9 Rhagfyr 2022—

a

adran 31 (adeiladau risg uwch etc), i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 120I o Ddeddf 1984;

b

adran 55 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);

c

yn Atodlen 5—

i

paragraff 1;

ii

paragraff 77 i’r graddau y mae’n ymwneud ag—

aa

adran 120A o Ddeddf 1984 o ran Cymru, a

bb

adran 120C o Ddeddf 1984;

iii

paragraff 78 o ran Cymru;

iv

paragraff 81(1) a’r diffiniadau o “appropriate national authority” a “higher-risk building” ym mharagraff 81(2), i gyd o ran Cymru.