(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau Cychwyn hyn gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (p. 30) (“y Ddeddf”).
Mae rheoliad 2 yn dod â nifer o ddarpariaethau o ran adeiladau risg uwch yng Nghymru i rym ar 9 Rhagfyr 2022. Sef, adran 31 o’r Ddeddf sy’n mewnosod adran 120I newydd yn Neddf Adeiladu 1984 (“Deddf 1984”), sy’n caniatáu Gweinidogion Cymru i ddiffinio “higher-risk building” at ddibenion Deddf 1984; adran 55 o’r Ddeddf; a’r paragraffau a ganlyn o Atodlen 5 i’r Ddeddf;
paragraff 1;
paragraff 77 i’r graddau y mae’n ymwneud ag—
adran 120A newydd o Ddeddf 1984 (gydag is-adrannau (1), (2), (3), (4), (6), (9) a (10) yn cael effaith o ran Cymru) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud rheoliadau mewn perthynas ag adrannau penodol o Ddeddf 1984, gan gynnwys adran 120I(2), ac
adran 120C newydd o Ddeddf 1984 sy’n cynnwys gofynion ymgynghori ar gyfer rheoliadau a wneir o dan adran 120I;
paragraff 78 sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 121 o Ddeddf 1984, yn rhannol o ganlyniad i gychwyn adran 120I newydd;
paragraff 81(1) sy’n diwygio adran 126 o Ddeddf 1984 i fewnosod diffiniadau penodol newydd a pharagraff 81(2) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diffiniadau o “appropriate national authority” a “higher-risk building”.