2022 Rhif 1287 (Cy. 261) (C. 104)
Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2022
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 170(4)(a)(i), (4)(a)(v) a (4)(b)(viii) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 20221.
Enwi a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2022.
2
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1984” yw Deddf Adeiladu 19842.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 9 Rhagfyr 20222
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i rym ar 9 Rhagfyr 2022—
a
adran 31 (adeiladau risg uwch etc), i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 120I o Ddeddf 1984;
b
adran 55 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);
c
yn Atodlen 5—
i
paragraff 1;
ii
paragraff 77 i’r graddau y mae’n ymwneud ag—
aa
adran 120A o Ddeddf 1984 o ran Cymru, a
bb
adran 120C o Ddeddf 1984;
iii
paragraff 78 o ran Cymru;
iv
paragraff 81(1) a’r diffiniadau o “appropriate national authority” a “higher-risk building” ym mharagraff 81(2), i gyd o ran Cymru.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy Reoliadau Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Rheoliadau hyn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adran 132 (at ddibenion gwneud rheoliadau) | 28 Mai 2022 | |
Adran 2(2) ac Atodlen 1 | 28 Mehefin 2022 | |
Adrannau 130 a 131 | 28 Mehefin 2022 | |
Adran 132 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 28 Mehefin 2022 | |
Adran 48 | 28 Gorffennaf 2022 |