YR ATODLENGweithgareddau y caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau a gwneud benthyciadau ar eu cyfer o dan y Cynllun hwn

RHAN 1

At ddibenion gwarchod, gwella neu adfer yr amgylchedd morol a dyfrol

1

Gweithgareddau sy’n hyrwyddo arloesedd.

2

Gweithgareddau sy’n ymwneud â gwasanaethau cynghori proffesiynol.

3

Gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfalaf dynol a rhwydweithio.

4

Gweithgareddau sy’n lliniaru effeithiau amgylchiadau esgusodol niweidiol.

5

Gweithgareddau sy’n sefydlu neu’n gwella seilwaith ar gyfer defnyddwyr y môr a defnyddwyr dŵr croyw.

6

Gweithgareddau sy’n cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy safleoedd dyframaethu.

7

Gweithgareddau sy’n lleihau effaith cynhyrchu bwyd môr ar yr amgylchedd morol.

8

Gweithgareddau sy’n cyfrannu at warchod, adfer neu wella bioamrywiaeth ac ecosystemau dyfrol.

9

Gweithgareddau sy’n cyfrannu at lunio mesurau cadwraeth a’u rhoi ar waith.

10

Gweithgareddau sy’n cefnogi gwaith cynllunio gofodol morol mewn perthynas â’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol ac arfordirol.

11

Gweithgareddau sy’n cyfrannu at liniaru newid hinsawdd neu ei effeithiau.

12

Gweithgareddau sy’n cynnal neu’n gwella iechyd a lles anifeiliaid.