RHAN 3Talu grantiau a gwneud benthyciadau gan Weinidogion Cymru
Tystiolaeth o wariant etc.8
1
Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud taliad i berson o dan y Cynllun hwn oni bai eu bod yn fodlon bod y person wedi mynd i wariant, neu yr aiff i wariant, yn briodol a bod y gwariant hwnnw yn wariant y telir y grant neu’r benthyciad yn ei gylch a’i fod wedi cydymffurfio, neu y gwnaiff gydymffurfio, ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth gymeradwyo’r grant neu’r benthyciad.
2
At ddibenion paragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu gwybodaeth yn dangos tystiolaeth o wariant neu unrhyw gamau angenrheidiol yn ymwneud â’r grant neu’r benthyciad.