RHAN 3Talu grantiau a gwneud benthyciadau gan Weinidogion Cymru
Cais am grant neu fenthyciad6
1
Rhaid i gais am grant neu fenthyciad o dan y Cynllun hwn gael ei wneud ar y ffurf a bennir, cael ei gyflwyno yn y ffordd a bennir a chynnwys yr wybodaeth a bennir.
2
Rhaid i gais gael ei wneud o fewn unrhyw derfyn amser a bennir.
3
Rhaid i geisydd ddarparu unrhyw ddogfennau eraill neu unrhyw wybodaeth arall a bennir pan ddaw’r cais i law neu ar ôl hynny.