RHAN 3Talu grantiau a gwneud benthyciadau gan Weinidogion Cymru
Talu grantiau a gwneud benthyciadau4
1
Caiff Gweinidogion Cymru, yn unol â’r Cynllun hwn, dalu grantiau neu wneud benthyciadau, mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
2
Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant neu wneud benthyciad o dan baragraff (1) i unrhyw berson—
a
sydd wedi gwneud cais am grant neu fenthyciad, a
b
y mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo ei gais.