RHAN 3Talu grantiau a gwneud benthyciadau gan Weinidogion Cymru

Gorfodi14

1

Mae gan swyddog gorfodi morol swyddogaeth orfodi mewn perthynas ag unrhyw drosedd neu drosedd a amheuir (er enghraifft, trosedd o dwyll o dan Ddeddf Twyll 20064) gan unrhyw berson mewn perthynas â chais am grant neu fenthyciad a wneir o dan y Cynllun hwn.

2

Mae adran 238 (gorfodi’r ddeddfwriaeth pysgodfeydd) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 20095 yn gymwys mewn perthynas â’r swyddogaeth a roddir gan baragraff (1) fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorfodi’r ddeddfwriaeth pysgodfeydd.

3

Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “y ddeddfwriaeth pysgodfeydd” yr un ystyr ag a roddir i “the fisheries legislation” yn adran 238(2) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009;

  • mae i “swyddog gorfodi morol” yr un ystyr ag a roddir i “marine enforcement officer” yn adran 235(1)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.