RHAN 3Talu grantiau a gwneud benthyciadau gan Weinidogion Cymru

Hysbysiad am adennill taliad13

1

Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i ad-dalu unrhyw ran o grant neu fenthyciad a dalwyd i berson o dan y Cynllun hwn.

2

Cyn rhoi hysbysiad o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni—

a

bod y cais a gymeradwywyd y gwnaed y taliad yn ei gylch, neu unrhyw wybodaeth ategol a ddarparwyd gan y ceisydd mewn perthynas ag ef, yn cynnwys gwybodaeth a oedd yn anghywir neu’n gamarweiniol,

b

bod unrhyw swm a dalwyd ar ffurf grant neu fenthyciad wedi cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben heblaw y diben y’i talwyd ar ei gyfer, neu

c

na chydymffurfiwyd ag unrhyw un neu ragor o’r amodau y cymeradwywyd y cais yn unol â hwy, neu y talwyd y grant neu’r benthyciad yn unol â hwy, neu na ellir cydymffurfio â hwy.

3

Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) ei gwneud yn ofynnol i’r person ad-dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad o fewn cyfnod a bennir, nad yw’n llai nag 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad.

4

Pan na chaiff unrhyw ran o’r swm a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1) ei had-dalu o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru adennill y swm hwnnw sydd heb ei ad-dalu yn ddiannod fel dyled sifil.