RHAN 3Talu grantiau a gwneud benthyciadau gan Weinidogion Cymru

Amrywio, atal dros dro a dirymu cymeradwyaeth11

1

Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg cyn i’r grant neu’r benthyciad gael ei dalu’n llawn, atal dros dro neu ddirymu’r gymeradwyaeth, yn llawn neu’n rhannol, neu amrywio amod sy’n gysylltiedig â’r gymeradwyaeth (gan gynnwys ychwanegu neu ddileu amodau).

2

Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).