RHAN 1Cyffredinol
Enwi, cychwyn, rhychwant a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2022.
3
Mae’r Rheoliadau hyn—
a
yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
b
yn gymwys o ran—
i
Cymru;
ii
parth Cymru;
iii
cychod pysgota Cymreig.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “a bennir” (“specified”) yw a bennir yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys mewn unrhyw ddogfennaeth a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu a ddarperir ganddynt fel arall;
ystyr “cwch pysgota Cymreig” (“Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—
- a
sydd wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 19952, a
- b
y mae ei gofnod yn y gofrestr yn pennu porthladd yng Nghymru sydd i’w drin fel yr un y mae’r cwch yn perthyn iddo;
- a
ystyr “hysbysedig” (“notified”) yw hysbysedig yn ysgrifenedig;
mae “ysgrifenedig” (“writing”) yn cynnwys cyfathrebiadau electronig o fewn ystyr adran 15(1) (dehongli cyffredinol) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 20003, a gofnodwyd ac y gellir felly eu hatgynhyrchu.