(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu’r Cynllun i Weinidogion Cymru roi grantiau a gwneud benthyciadau o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22).
Mae paragraff 2(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020 yn pennu’r dibenion y caniateir rhoi cymorth ariannol ar eu cyfer.
Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol cyffredinol. Mae Rhan 2 yn darparu ar gyfer sefydlu’r Cynllun. Mae Rhan 3 yn cyfansoddi’r Cynllun ac yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru dalu grantiau a gwneud benthyciadau. Caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau neu wneud benthyciadau mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi ar ba sail y caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau a gwneud benthyciadau ac maent yn gosod gweithdrefn ar gyfer gwneud ceisiadau. Cyn talu grant neu fenthyciad rhaid bod Gweinidogion Cymru yn fodlon ar y gwariant yr aed iddo, neu yr eir iddo, ac y cydymffurfir ag unrhyw amodau cymeradwyo.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu bod talu grant neu fenthyciad yn amodol ar y ceisydd yn cadw cofnodion perthnasol ac yn hysbysu Gweinidogion Cymru am unrhyw newid sylweddol mewn amgylchiadau. Gall Gweinidogion Cymru amrywio, atal dros dro a dirymu’r penderfyniad i gymeradwyo cais am grant neu fenthyciad a chânt, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i ad-dalu grant neu fenthyciad os na chaiff rhai amodau penodol eu bodloni (gydag unrhyw symiau sydd heb eu had-dalu yn cael eu hadennill yn y pen draw fel dyled sifil).
Caniateir cyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â phenderfyniadau’n ymwneud â cheisiadau am grantiau a benthyciadau a hysbysiadau am amrywiadau, ataliadau dros dro a dirymiadau. Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am eu penderfyniad yn dilyn sylwadau o’r fath.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi swyddogaeth orfodi i swyddogion gorfodi morol a benodir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23). Mae a wnelo’r swyddogaeth â gorfodi unrhyw droseddau posibl a gyflawnir mewn perthynas â chais am grant neu fenthyciad o dan y Cynllun (er enghraifft, trosedd o dan Ddeddf Twyll 2006 (p. 35)). Caiff pwerau gorfodi perthnasol ar gyfer swyddogion gorfodi morol o dan Ran 8 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 eu cymhwyso hefyd at ddibenion y swyddogaeth hon.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddir ar www.llyw.cymru.