NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) drwy fewnosod rheoliad 24L sy’n gwneud darpariaeth ynghylch yr arferion cyfrifyddu sydd i’w dilyn gan awdurdod lleol pan fo elfen arall wedi ei roi yn lle elfen o ased seilwaith. Mae rheoliad 24L yn gymwys i awdurdodau lleol y mae’n ofynnol iddynt lunio datganiad o gyfrifon yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014. Rhaid i awdurdod lleol naill ai cymryd mai dim yw swm cario ymlaen yr elfen nas cydnabyddir mwyach neu gyfrifo’r swm cario ymlaen yn unol â’r arferion cyfrifyddu a nodir o dan reoliad 25 o Reoliadau 2003.

Mae rheoliad 24L yn gymwys i gyfrifon ar gyfer blynyddoedd ariannol mewn cysylltiad â’r cyfnodau sy’n dechrau â 1 Ebrill 2021 ac sy’n gorffen â 31 Mawrth 2025.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.