RHAN 2
Diwygio deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir
Diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/9347
1
Mae Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/934 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran ardaloedd tyfu gwin lle caniateir cynyddu’r cryfder alcoholaidd, arferion gwinyddol awdurdodedig a chyfyngiadau sy’n gymwys i gynhyrchiad a chadwraeth cynhyrchion gwinwydd, y ganran isaf o alcohol ar gyfer sgil-gynhyrchion a’u gwarediad, a chyhoeddi ffeiliau OIV wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn Erthygl 4(1)(a), hepgorer “and Article 80(3)(b) to (e)”.
3
Yn Erthygl 7(1), hepgorer “point (h) of Article 75(3) and”.
4
Yn Erthygl 9(1), yn lle “Article 75(3)(f) of Regulation (EU) No 1308/2013” rhodder “this regulation”.