RHAN 2

Diwygio deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir

Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 543/20114

1

Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 543/2011 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 mewn cysylltiad â’r sectorau ffrwythau a llysiau a ffrwythau a llysiau wedi eu prosesu5 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn Erthygl 3(2), hepgorer “referred to in Article 75(1)(b) of Regulation (EU) No 1308/2013”.

3

Yn Erthygl 8, yn lle “Articles 75 and” rhodder “Article”.

4

Yn Erthygl 10(1), hepgorer “pursuant to Article 75 of Regulation (EU) No 1308/2013”.

5

Yn Erthygl 11(1), yn lle “Articles 75 and” rhodder “Article”.