RHAN 2

Diwygio deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir

Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/20083

Yn Erthygl 3(5) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau deor a chywion dofednod buarth fferm4, hepgorer “75(3),”.