RHAN 2

Diwygio deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir

Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/20082

1

Mae Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/2008 sy’n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod3 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn Erthygl 1, yn lle “Article 75(1)(g) of Regulation (EC) No 1308/2013” rhodder “paragraph 17(1)(d) (poultry and poultrymeat) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020, excluding live poultry”.

3

Yn Erthygl 13, yn lle “Article 75(3)(g) of Regulation (EU) No 1308/2013” rhodder “Article 11(1)”.