(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y diwygiadau hynny a wnaed gan Ran 4 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21).
Mae’r diwygiadau yn ymwneud â safonau marchnata ac fe’u gwneir i ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir a deddfwriaeth ddomestig sy’n deillio o’r UE. Mae’r diwygiadau naill ai’n hepgor croesgyfeiriadau at erthyglau yn Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 (EUR 2013/1308) (“y Rheoliad CMO”) sydd wedi eu datgymhwyso gan Ran 4 o Atodlen 7 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, ynghyd â geiriad cysylltiedig mewn rhai achosion, neu’n gweithredu i roi cyfeiriad priodol at gyfraith yr UE a ddargedwir neu at Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 yn lle cyfeiriadau at erthyglau yn y Rheoliad CMO.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.