2022 Rhif 1215 (Cy. 252)
Amaethyddiaeth, Cymru
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Cyd-drefniadaeth y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50(3) a 53(2) o Ddeddf Amaethyddiaeth 20201, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd2, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.