2022 Rhif 1214 (Cy. 251)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 60 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi.

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2022.

2

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19922.

Diwygio Rheoliadau 19922

1

Mae Rheoliadau 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 neu ar ôl hynny.

2

Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 (ffigurau poblogaeth oedolion) rhodder yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLEN

Rheoliad 2

SCHEDULE 4ADULT POPULATION FIGURES

Billing authority area

Prescribed figure

Blaenau Gwent

53,740

Bridgend/Pen-y-bont ar Ogwr

116,158

Caerphilly/Caerffili

139,349

Cardiff/Caerdydd

288,491

Carmarthenshire/Sir Gaerfyrddin

151,156

Ceredigion

60,035

Conwy

93,956

Denbighshire/Sir Ddinbych

76,666

Flintshire/Sir y Fflint

123,975

Gwynedd

95,528

Isle of Anglesey/Ynys Môn

55,653

Merthyr Tydfil/Merthyr Tudful

46,390

Monmouthshire/Sir Fynwy

76,143

Neath Port Talbot/Castell-nedd Port Talbot

114,003

Newport/Casnewydd

123,654

Pembrokeshire/Sir Benfro

99,829

Powys

109,706

Rhondda Cynon Taf

188,246

Swansea/Abertawe

192,657

Torfaen

73,027

Vale of Glamorgan/Bro Morgannwg

104,345

Wrexham/Wrecsam

107,148

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

O dan Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (ardrethu annomestig: cronni), mae’n ofynnol i awdurdodau bilio (sef, yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd (ffigurau poblogaeth oedolion) yn lle’r un bresennol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.