NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (O.S. 1989/306) (“y prif Reoliadau”), sy’n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am wasanaethau perthnasol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (2006 (p. 42) i bersonau penodol nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig.

Mae rheoliad 2 yn ychwanegu Beilïaeth Guernsey a Malta at y rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gytundeb cilyddol â hwy yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.