NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn a wneir gan Weinidogion Cymru yn dwyn i rym adran 2 o Ddeddf Cyflenwadau Meddygol Gwasanaethau Iechyd (Costau) 2017 (“y Ddeddf”) ar 21 Tachwedd 2022. Mae adran 2 yn diwygio adran 88 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae adran 88 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â phennu tâl ar gyfer personau sy’n darparu gwasanaethau fferyllol. Mae’r diwygiadau a wneir gan adran 2 o’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch tâl am wasanaethau fferyllol yn benodol o ran cynhyrchion meddyginiaethol arbennig.