- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Trosedd treisio o dan erthygl 5 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008(1).
(2) Trosedd o dan adran 66, 69 neu 70 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(2).
(3) Trosedd o dan erthygl 70, 73 neu 74 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008.
(4) Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(3) ac eithrio unrhyw droseddau a bennir o dan Ddeddf Cyfraith Trosedd (Diwygio) 1995 yn yr Atodlen honno.
(5) Trosedd o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978(4) (ffotograffau anweddus).
(6) Trosedd yn groes i erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980(5) (ysgogi merch o dan 16 oed i gael cyfathrach rywiol losgachol).
(7) Trosedd yn groes i erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988(6) (meddu ar ffotograffau anweddus o blant).
(8) Trosedd o dan adrannau 16 i 19 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(7) (camfanteisio ar safle o ymddiriedaeth).
(9) Trosedd o dan Ran 3 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008 (troseddau rhywiol yn erbyn plant).
(10) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr canlynol—
(a)erthygl 68 neu 69(9) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (troseddau sy’n ymwneud â herwgydio plentyn mewn gofal),
(b)erthygl 132 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 14 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(8) (troseddau sy’n ymwneud â gwarchod plant a gofal dydd),
(c)erthygl 117 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 9(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(9) (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat), neu
(d)erthygl 79(3), 81(4), 95(3) neu 97(4) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(10), neu adran 127(5) neu 129(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(11) (troseddau sy’n ymwneud â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).
(11) Trosedd yn groes i adran 2 o Ddeddf Masnachu Pobl a Chamfanteisio ar Bobl (Cyfiawnder Troseddol a Chymorth i Ddioddefwyr) (Gogledd Iwerddon) 2015(12) (masnachu pobl).
(12) Trosedd yn groes i adran 51 o Ddeddf Cyfiawnder (Gogledd Iwerddon) 2016(13) (datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gan fwriadu achosi trallod).
O.S. 2008/1769 (G.I. 2) (“Gorchymyn 2008”).
Diddymwyd adrannau 66, 69 a 70 o ran Gogledd Iwerddon gan erthygl 83 o Orchymyn 2008 ac Atodlen 3 iddo, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn y Gorchymyn hwnnw.
O.S. 1978/1047 (G.I. 17). Diwygiwyd erthygl 3 gan adran 84(10) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33) (“Deddf 1994”), adran 41(2) o Ddeddf 2000 a pharagraff 8 o Atodlen 1 i O.S. 2003/1247 (G.I. 13).
O.S. 1980/704 (G.I. 6). Mae erthygl 9 wedi ei dirymu a’i disodli gan erthygl 33 o Orchymyn 2008.
O.S. 1988/1847 (G.I. 17). Diwygiwyd erthygl 15 gan adrannau 84(11) a 86(2) o Ddeddf 1994 ac adran 41(4) o Ddeddf 2000.
Diddymwyd adrannau 16 i 19 yng Ngogledd Iwerddon gan erthygl 83 o Orchymyn 2008 ac Atodlen 3 iddo, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.
Diddymwyd adran 14 gan O.S. 1995/755 (G.I. 2).
Diddymwyd adran 9(1) gan O.S. 1995/755 (G.I. 2).
Dirymwyd erthyglau 79(3), 81(4), 95(3) a 97(4) gan erthygl 50(2) o O.S. 2003/431 (G.I. 9) ac Atodlen 5 iddo.
Diddymwyd adrannau 127 a 129 gan O.S. 1995/755 (G.I. 2).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: