Search Legislation

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Troseddau yn yr Alban

2.—(1Trosedd treisio o dan adran 1 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009(1).

(2Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(2).

(3Trosedd plagiwm yn y gyfraith gyffredin (dwyn plentyn o dan oedran aeddfedrwydd).

(4Trosedd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982(3) (troseddau sy’n ymwneud â ffotograffau anweddus o blant).

(5Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000(4) (camfanteisio ar ymddiriedaeth).

(6Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr canlynol—

(a)adran 81, 83 neu 89 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(5), adran 59(1) neu 171(2) o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 neu adran 17(8) neu 71 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(6) (troseddau llochesu);

(b)adran 6 o Ddeddf Herwgydio Plant 1984(7) (mynd â phlentyn neu anfon plentyn allan o’r Deyrnas Unedig);

(c)adran 15 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).

(7Trosedd o dan neu yn rhinwedd adran 60(3), 61(3) neu 62(6) o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(8) (troseddau sy’n ymwneud â sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).

(8Trosedd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd plant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010—

(a)adran 78 (rheoliadau: gwasanaethau gofal),

(b)adran 80 (troseddau mewn perthynas â chofrestru o dan Bennod 3), neu

(c)adran 81 (datganiadau anwir mewn cais o dan Bennod 3).

(9Trosedd o dan adran 122 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (trosedd priodas o dan orfod: yr Alban).

(3)

1982 p. 45. Diwygiwyd adran 52 gan adran 5 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Darpariaethau Canlyniadol) (Yr Alban) 1995 (p. 40) ac Atodlen 4 iddi, ac adran 16 o Ddeddf Amddiffyn Plant ac Atal Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2005 (dsa 9). Mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33). Diwygiwyd adrannau 52 a 52A gan adran 84 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33), adran 19 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2003 (dsa 7), ac adran 41 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010 (dsa 13) a pharagraff 13 o Atodlen 7 iddi.

(4)

2000 p. 44. Diddymwyd adran 3 o ran Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan baragraff 45 o Atodlen 6 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003. Fe’i diddymwyd o ran yr Alban gan Atodlen 6 i Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009.

(5)

Diddymwyd adrannau 81 and 83 gan adran 203(2) o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2001 (dsa 1) ac Atodlen 6 iddi. Diddymwyd adran 89 gan adran 120(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007 ac Atodlen 3 iddi.

(6)

Fe’i diddymwyd gan adran 105(5) o Ddeddf Plant (yr Alban) 1995 ac Atodlen 5 iddi.

(7)

1984 p. 37. Diwygiwyd adran 6 o ran yr Alban gan adran 105(4) o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 ac Atodlen 4 iddi.

(8)

Diddymwyd adrannau 60, 61 a 62 gan adran 80(1) o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 ac Atodlen 4 iddi, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn erthyglau 11 a 13 o O.S.A. 2002/162.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources