ATODLEN 3TROSEDDAU PENODEDIG
Troseddau yng Nghymru a Lloegr1
1
Trosedd o dan adran 1 (trosedd anfon llythyrau etc. gan fwriadu achosi trallod neu bryder) o Ddeddf Cyfathrebiadau Maleisus 198876.
2
Trosedd o dan adran 49 neu 50(9) o Ddeddf 1989 (troseddau sy’n ymwneud â herwgydio plentyn mewn gofal).
3
Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 199777—
a
adran 4 (rhoi pobl o dan ofn trais), neu
b
adran 4A (stelcio sy’n cynnwys ofn trais neu ddychryn neu drallod difrifol)78.
4
Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Terfysgaeth 200079—
a
adran 11 (aelodaeth),
b
adran 12 (cefnogaeth),
c
adran 13 (lifrai),
d
adran 15 (codi arian),
e
adran 54 (hyfforddiant arfau)80,
f
adran 56 (sefydliad cyfarwyddo terfysgwyr),
g
adran 58A (ennyn, cyhoeddi neu gyfathrebu gwybodaeth am aelodau o’r lluoedd arfog etc)81,
h
adran 59 (Cymru a Lloegr), neu
i
adran 63 (cyllid terfysgwyr: awdurdodaeth).
5
Trosedd mewn perthynas â chartref plant o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Safonau Gofal 2000—
a
adran 11(1) (methiant i gofrestru),
b
adran 24 (methiant i gydymffurfio ag amodau),
c
adran 25 (torri rheoliadau),
d
adran 26 (disgrifiadau anwir o sefydliadau ac asiantaethau), neu
e
adran 27 (datganiadau anwir mewn ceisiadau).
6
Trosedd o dan adran 127 (defnydd amhriodol o rwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus) o Ddeddf Cyfathrebiadau 200382.
7
Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003—
a
adran 15A (cyfathrebu rhywiol â phlentyn)83,
b
adran 62 neu 63 (cyflawni trosedd neu dresmasu gan fwriadu cyflawni trosedd rywiol),
c
adran 64 neu 65 (rhyw â pherthynas sy’n oedolyn),
d
adran 67A (voyeuriaeth: troseddau ychwanegol),
e
adran 69 (cyfathrach ag anifail)84, neu
f
adran 70 (treiddio’n rhywiol i gorff marw).
8
Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Terfysgaeth 200685—
a
adran 1 (annog terfysgaeth),
b
adran 2 (lledaenu cyhoeddiadau terfysgol),
c
adran 5 (paratoi gweithredoedd terfysgol),
d
adran 6 (hyfforddiant ar gyfer terfysgaeth)86,
e
adran 8 (presenoldeb mewn man a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant terfysgwyr),
f
adran 9 (gwneud dyfeisiau neu ddeunyddiau a meddu arnynt), neu
g
adran 11 (bygythiadau terfysgol sy’n ymwneud â dyfeisiau, deunyddiau neu gyfleusterau).
9
Trosedd o dan adran 62 (meddu ar ddelweddau gwaharddedig o blant) o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 200987.
10
Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 201588—
a
adran 20 (trin yn wael neu esgeulustod bwriadol: trosedd gan weithiwr gofal),
b
adran 21 (trin yn wael neu esgeulustod bwriadol: trosedd gan ddarparwr gofal), neu
c
adran 33 (datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gan fwriadu achosi trallod).
11
Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Troseddu Difrifol 201589—
a
adran 69 (meddu ar lawlyfr i bedoffiliaid)90, neu
b
adran 76 (ymddygiad rheolaethol neu ymddygiad gorfodaethol mewn perthynas agos neu deuluol).
12
Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 201591—
a
adran 1 (caethwasiaeth, caethiwed a llafur o dan orfod neu lafur gorfodol),
b
adran 2 (masnachu pobl),
c
adran 4 (cyflawni trosedd gan fwriadu cyflawni trosedd o dan adran 2), neu
d
adran 30 (troseddau)92.
13
Trosedd o dan adran 5 (cyflenwi, neu gynnig cyflenwi, sylwedd seicoweithredol) o Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol 201693.
14
Trosedd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”)) o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016—
a
adran 5 (gofyniad i gofrestru),
b
adran 43 (methiant i gydymffurfio ag amod),
c
adran 44 (disgrifiadau anwir),
d
adran 45 (methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadau), neu
e
adran 47 (datganiadau anwir).
15
Trosedd o dan adran 70 o Ddeddf 1989 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).
16
Trosedd o dan adran 121 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 201494 (trosedd priodas o dan orfod: Cymru a Lloegr).
17
Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 200395—
a
adran 1 (trosedd anffurfio organau cenhedlu benywod),
b
adran 2 (cynorthwyo merch i anffurfio ei horganau cenhedlu ei hun),
c
adran 3 (cynorthwyo person nad yw o’r DU i anffurfio dramor organau cenhedlu merch), neu
d
adran 3A (methu ag amddiffyn merch rhag risg o anffurfio organau cenhedlu).