Search Legislation

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Troseddau yng Nghymru a Lloegr

1.—(1Trosedd o dan adran 1 (trosedd anfon llythyrau etc. gan fwriadu achosi trallod neu bryder) o Ddeddf Cyfathrebiadau Maleisus 1988(1).

(2Trosedd o dan adran 49 neu 50(9) o Ddeddf 1989 (troseddau sy’n ymwneud â herwgydio plentyn mewn gofal).

(3Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997(2)

(a)adran 4 (rhoi pobl o dan ofn trais), neu

(b)adran 4A (stelcio sy’n cynnwys ofn trais neu ddychryn neu drallod difrifol)(3).

(4Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Terfysgaeth 2000(4)

(a)adran 11 (aelodaeth),

(b)adran 12 (cefnogaeth),

(c)adran 13 (lifrai),

(d)adran 15 (codi arian),

(e)adran 54 (hyfforddiant arfau)(5),

(f)adran 56 (sefydliad cyfarwyddo terfysgwyr),

(g)adran 58A (ennyn, cyhoeddi neu gyfathrebu gwybodaeth am aelodau o’r lluoedd arfog etc)(6),

(h)adran 59 (Cymru a Lloegr), neu

(i)adran 63 (cyllid terfysgwyr: awdurdodaeth).

(5Trosedd mewn perthynas â chartref plant o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Safonau Gofal 2000—

(a)adran 11(1) (methiant i gofrestru),

(b)adran 24 (methiant i gydymffurfio ag amodau),

(c)adran 25 (torri rheoliadau),

(d)adran 26 (disgrifiadau anwir o sefydliadau ac asiantaethau), neu

(e)adran 27 (datganiadau anwir mewn ceisiadau).

(6Trosedd o dan adran 127 (defnydd amhriodol o rwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003(7).

(7Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003—

(a)adran 15A (cyfathrebu rhywiol â phlentyn)(8),

(b)adran 62 neu 63 (cyflawni trosedd neu dresmasu gan fwriadu cyflawni trosedd rywiol),

(c)adran 64 neu 65 (rhyw â pherthynas sy’n oedolyn),

(d)adran 67A (voyeuriaeth: troseddau ychwanegol),

(e)adran 69 (cyfathrach ag anifail)(9), neu

(f)adran 70 (treiddio’n rhywiol i gorff marw).

(8Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Terfysgaeth 2006(10)

(a)adran 1 (annog terfysgaeth),

(b)adran 2 (lledaenu cyhoeddiadau terfysgol),

(c)adran 5 (paratoi gweithredoedd terfysgol),

(d)adran 6 (hyfforddiant ar gyfer terfysgaeth)(11),

(e)adran 8 (presenoldeb mewn man a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant terfysgwyr),

(f)adran 9 (gwneud dyfeisiau neu ddeunyddiau a meddu arnynt), neu

(g)adran 11 (bygythiadau terfysgol sy’n ymwneud â dyfeisiau, deunyddiau neu gyfleusterau).

(9Trosedd o dan adran 62 (meddu ar ddelweddau gwaharddedig o blant) o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009(12).

(10Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015(13)

(a)adran 20 (trin yn wael neu esgeulustod bwriadol: trosedd gan weithiwr gofal),

(b)adran 21 (trin yn wael neu esgeulustod bwriadol: trosedd gan ddarparwr gofal), neu

(c)adran 33 (datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gan fwriadu achosi trallod).

(11Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Troseddu Difrifol 2015(14)

(a)adran 69 (meddu ar lawlyfr i bedoffiliaid)(15), neu

(b)adran 76 (ymddygiad rheolaethol neu ymddygiad gorfodaethol mewn perthynas agos neu deuluol).

(12Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015(16)

(a)adran 1 (caethwasiaeth, caethiwed a llafur o dan orfod neu lafur gorfodol),

(b)adran 2 (masnachu pobl),

(c)adran 4 (cyflawni trosedd gan fwriadu cyflawni trosedd o dan adran 2), neu

(d)adran 30 (troseddau)(17).

(13Trosedd o dan adran 5 (cyflenwi, neu gynnig cyflenwi, sylwedd seicoweithredol) o Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol 2016(18).

(14Trosedd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”)) o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016—

(a)adran 5 (gofyniad i gofrestru),

(b)adran 43 (methiant i gydymffurfio ag amod),

(c)adran 44 (disgrifiadau anwir),

(d)adran 45 (methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadau), neu

(e)adran 47 (datganiadau anwir).

(15Trosedd o dan adran 70 o Ddeddf 1989 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).

(16Trosedd o dan adran 121 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014(19) (trosedd priodas o dan orfod: Cymru a Lloegr).

(17Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003(20)

(a)adran 1 (trosedd anffurfio organau cenhedlu benywod),

(b)adran 2 (cynorthwyo merch i anffurfio ei horganau cenhedlu ei hun),

(c)adran 3 (cynorthwyo person nad yw o’r DU i anffurfio dramor organau cenhedlu merch), neu

(d)adran 3A (methu ag amddiffyn merch rhag risg o anffurfio organau cenhedlu).

(3)

Mewnosodwyd adran 4A gan adran 111(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).

(5)

Diwygiwyd adran 54 gan adran 120 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth, Trosedd a Diogelwch 2001 (p. 24), adran 1 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2) (gyda darpariaethau trosiannol sydd wedi eu cynnwys yn O.S. 2015/778) ac adran 99 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (p. 28) ac Atodlen 9 iddi.

(6)

Mewnosodwyd adran 38A gan adran 76(1) o Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (p. 28). Amnewidiwyd rhan o adran 38A(3) gan adran 7(4) o Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch y Ffin 2019 (p. 3) (“Deddf 2019”), yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn adran 25(2) o Ddeddf 2019.

(7)

2003 p. 21. Diwygiwyd adran 127 gan adran 51(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2).

(8)

Mewnosodwyd adran 15A gan adran 67 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2015 (p. 9).

(9)

Diddymwyd adran 69 o ran Gogledd Iwerddon gan erthygl 83 o O.S. 2008/1769 (G.I. 2) ac Atodlen 3 iddo, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn y Gorchymyn hwnnw.

(11)

Diwygiwyd adran 6 gan adran 1(3) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2) (“Deddf 2015”) (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn adran 1(4) a (5) o Ddeddf 2015) a pharagraff 443 o Atodlen 24 i Ddeddf Dedfrydu 2020 (“Deddf 2020”) (yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol yn adran 410 o Ddeddf 2020 ac Atodlen 24 iddi).

(13)

2015 p. 2.

(14)

2015 p. 9.

(15)

Diwygiwyd adran 69 gan reoliadau 23 a 24 o O.S. 2016/244.

(17)

Diwygiwyd adran 30 gan erthygl 3 o O.S. 2016/1031 a pharagraff 3(2)(a) a (b) o’r Atodlen iddo.

(18)

2016 p. 2.

(20)

Mewnosodwyd gan adran 72 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015 (p. 9).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources