- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 3(7)
1.—(1) Trosedd o dan adran 1 (trosedd anfon llythyrau etc. gan fwriadu achosi trallod neu bryder) o Ddeddf Cyfathrebiadau Maleisus 1988(1).
(2) Trosedd o dan adran 49 neu 50(9) o Ddeddf 1989 (troseddau sy’n ymwneud â herwgydio plentyn mewn gofal).
(3) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997(2)—
(a)adran 4 (rhoi pobl o dan ofn trais), neu
(b)adran 4A (stelcio sy’n cynnwys ofn trais neu ddychryn neu drallod difrifol)(3).
(4) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Terfysgaeth 2000(4)—
(a)adran 11 (aelodaeth),
(b)adran 12 (cefnogaeth),
(c)adran 13 (lifrai),
(d)adran 15 (codi arian),
(e)adran 54 (hyfforddiant arfau)(5),
(f)adran 56 (sefydliad cyfarwyddo terfysgwyr),
(g)adran 58A (ennyn, cyhoeddi neu gyfathrebu gwybodaeth am aelodau o’r lluoedd arfog etc)(6),
(h)adran 59 (Cymru a Lloegr), neu
(i)adran 63 (cyllid terfysgwyr: awdurdodaeth).
(5) Trosedd mewn perthynas â chartref plant o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Safonau Gofal 2000—
(a)adran 11(1) (methiant i gofrestru),
(b)adran 24 (methiant i gydymffurfio ag amodau),
(c)adran 25 (torri rheoliadau),
(d)adran 26 (disgrifiadau anwir o sefydliadau ac asiantaethau), neu
(e)adran 27 (datganiadau anwir mewn ceisiadau).
(6) Trosedd o dan adran 127 (defnydd amhriodol o rwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003(7).
(7) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003—
(a)adran 15A (cyfathrebu rhywiol â phlentyn)(8),
(b)adran 62 neu 63 (cyflawni trosedd neu dresmasu gan fwriadu cyflawni trosedd rywiol),
(c)adran 64 neu 65 (rhyw â pherthynas sy’n oedolyn),
(d)adran 67A (voyeuriaeth: troseddau ychwanegol),
(e)adran 69 (cyfathrach ag anifail)(9), neu
(f)adran 70 (treiddio’n rhywiol i gorff marw).
(8) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Terfysgaeth 2006(10)—
(a)adran 1 (annog terfysgaeth),
(b)adran 2 (lledaenu cyhoeddiadau terfysgol),
(c)adran 5 (paratoi gweithredoedd terfysgol),
(d)adran 6 (hyfforddiant ar gyfer terfysgaeth)(11),
(e)adran 8 (presenoldeb mewn man a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant terfysgwyr),
(f)adran 9 (gwneud dyfeisiau neu ddeunyddiau a meddu arnynt), neu
(g)adran 11 (bygythiadau terfysgol sy’n ymwneud â dyfeisiau, deunyddiau neu gyfleusterau).
(9) Trosedd o dan adran 62 (meddu ar ddelweddau gwaharddedig o blant) o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009(12).
(10) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015(13)—
(a)adran 20 (trin yn wael neu esgeulustod bwriadol: trosedd gan weithiwr gofal),
(b)adran 21 (trin yn wael neu esgeulustod bwriadol: trosedd gan ddarparwr gofal), neu
(c)adran 33 (datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gan fwriadu achosi trallod).
(11) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Troseddu Difrifol 2015(14)—
(a)adran 69 (meddu ar lawlyfr i bedoffiliaid)(15), neu
(b)adran 76 (ymddygiad rheolaethol neu ymddygiad gorfodaethol mewn perthynas agos neu deuluol).
(12) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015(16)—
(a)adran 1 (caethwasiaeth, caethiwed a llafur o dan orfod neu lafur gorfodol),
(b)adran 2 (masnachu pobl),
(c)adran 4 (cyflawni trosedd gan fwriadu cyflawni trosedd o dan adran 2), neu
(d)adran 30 (troseddau)(17).
(13) Trosedd o dan adran 5 (cyflenwi, neu gynnig cyflenwi, sylwedd seicoweithredol) o Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol 2016(18).
(14) Trosedd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”)) o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016—
(a)adran 5 (gofyniad i gofrestru),
(b)adran 43 (methiant i gydymffurfio ag amod),
(c)adran 44 (disgrifiadau anwir),
(d)adran 45 (methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadau), neu
(e)adran 47 (datganiadau anwir).
(15) Trosedd o dan adran 70 o Ddeddf 1989 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).
(16) Trosedd o dan adran 121 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014(19) (trosedd priodas o dan orfod: Cymru a Lloegr).
(17) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003(20)—
(a)adran 1 (trosedd anffurfio organau cenhedlu benywod),
(b)adran 2 (cynorthwyo merch i anffurfio ei horganau cenhedlu ei hun),
(c)adran 3 (cynorthwyo person nad yw o’r DU i anffurfio dramor organau cenhedlu merch), neu
(d)adran 3A (methu ag amddiffyn merch rhag risg o anffurfio organau cenhedlu).
2.—(1) Trosedd treisio o dan adran 1 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009(21).
(2) Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(22).
(3) Trosedd plagiwm yn y gyfraith gyffredin (dwyn plentyn o dan oedran aeddfedrwydd).
(4) Trosedd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982(23) (troseddau sy’n ymwneud â ffotograffau anweddus o blant).
(5) Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000(24) (camfanteisio ar ymddiriedaeth).
(6) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr canlynol—
(a)adran 81, 83 neu 89 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(25), adran 59(1) neu 171(2) o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 neu adran 17(8) neu 71 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(26) (troseddau llochesu);
(b)adran 6 o Ddeddf Herwgydio Plant 1984(27) (mynd â phlentyn neu anfon plentyn allan o’r Deyrnas Unedig);
(c)adran 15 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).
(7) Trosedd o dan neu yn rhinwedd adran 60(3), 61(3) neu 62(6) o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(28) (troseddau sy’n ymwneud â sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).
(8) Trosedd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd plant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010—
(a)adran 78 (rheoliadau: gwasanaethau gofal),
(b)adran 80 (troseddau mewn perthynas â chofrestru o dan Bennod 3), neu
(c)adran 81 (datganiadau anwir mewn cais o dan Bennod 3).
(9) Trosedd o dan adran 122 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (trosedd priodas o dan orfod: yr Alban).
3.—(1) Trosedd treisio o dan erthygl 5 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008(29).
(2) Trosedd o dan adran 66, 69 neu 70 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(30).
(3) Trosedd o dan erthygl 70, 73 neu 74 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008.
(4) Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(31) ac eithrio unrhyw droseddau a bennir o dan Ddeddf Cyfraith Trosedd (Diwygio) 1995 yn yr Atodlen honno.
(5) Trosedd o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978(32) (ffotograffau anweddus).
(6) Trosedd yn groes i erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980(33) (ysgogi merch o dan 16 oed i gael cyfathrach rywiol losgachol).
(7) Trosedd yn groes i erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988(34) (meddu ar ffotograffau anweddus o blant).
(8) Trosedd o dan adrannau 16 i 19 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(35) (camfanteisio ar safle o ymddiriedaeth).
(9) Trosedd o dan Ran 3 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008 (troseddau rhywiol yn erbyn plant).
(10) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr canlynol—
(a)erthygl 68 neu 69(9) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (troseddau sy’n ymwneud â herwgydio plentyn mewn gofal),
(b)erthygl 132 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 14 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(36) (troseddau sy’n ymwneud â gwarchod plant a gofal dydd),
(c)erthygl 117 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 9(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(37) (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat), neu
(d)erthygl 79(3), 81(4), 95(3) neu 97(4) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(38), neu adran 127(5) neu 129(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(39) (troseddau sy’n ymwneud â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).
(11) Trosedd yn groes i adran 2 o Ddeddf Masnachu Pobl a Chamfanteisio ar Bobl (Cyfiawnder Troseddol a Chymorth i Ddioddefwyr) (Gogledd Iwerddon) 2015(40) (masnachu pobl).
(12) Trosedd yn groes i adran 51 o Ddeddf Cyfiawnder (Gogledd Iwerddon) 2016(41) (datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gan fwriadu achosi trallod).
4. Trosedd yn groes—
(a)i Ran 7 o Gyfraith Plant (Jersey) 1969(42),
(b)i Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002(43), neu
(c)i Gyfraith Gofal Dydd Plant (Jersey) 2002(44).
5. Trosedd yn groes—
(a)i’r ‘Loi pour la Punition d’Inceste’ (Cyfraith Cosbi Llosgach) 1909(45);
(b)i’r ‘Loi relative à la protection des Femmes et des Filles Mineures’ (Cyfraith Amddiffyn Menywod a Merched Ifanc) 1914(46);
(c)i’r ‘Loi relative à la Sodomie’ (Cyfraith sy’n ymwneud â Sodomiaeth) 1929(47);
(d)erthygl 7, 9, 10, 11 neu 12, paragraff 1 o erthygl 41 neu baragraff 1, 2, 3 neu 4 o erthygl 51 o’r ‘Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes’ (Cyfraith sy’n ymwneud ag Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc) 1917(48);
(e)Cyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967;
(f)Cyfraith Amddiffyn Plant (Beilïaeth Guernsey) 1985(49).
6. Trosedd a bennir yn Atodlen 8 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).
7.—(1) Trosedd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(50) mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876(51) (gwaharddiadau a chyfyngiadau) pan oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blentyn.
(2) Trosedd yn rhinwedd—
(a)adran 72 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (troseddau y tu allan i’r Deyrnas Unedig)(52), neu
(b)adran 16B o Ddeddf Cyfraith Trosedd (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995(53) (cyflawni troseddau rhywiol penodol y tu allan i’r Deyrnas Unedig).
(3) Trosedd yn groes i adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (cadw pobl sy’n absennol yn gaeth).Trosedd yn groes i erthygl 10(2) (trosedd sy’n ymwneud â dianc) neu erthygl 11(1) (trosedd rhwystro bwriadol) o Orchymyn Deddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2013(54)
Mewnosodwyd adran 4A gan adran 111(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).
Diwygiwyd adran 54 gan adran 120 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth, Trosedd a Diogelwch 2001 (p. 24), adran 1 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2) (gyda darpariaethau trosiannol sydd wedi eu cynnwys yn O.S. 2015/778) ac adran 99 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (p. 28) ac Atodlen 9 iddi.
Mewnosodwyd adran 38A gan adran 76(1) o Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (p. 28). Amnewidiwyd rhan o adran 38A(3) gan adran 7(4) o Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch y Ffin 2019 (p. 3) (“Deddf 2019”), yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn adran 25(2) o Ddeddf 2019.
2003 p. 21. Diwygiwyd adran 127 gan adran 51(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2).
Mewnosodwyd adran 15A gan adran 67 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2015 (p. 9).
Diddymwyd adran 69 o ran Gogledd Iwerddon gan erthygl 83 o O.S. 2008/1769 (G.I. 2) ac Atodlen 3 iddo, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn y Gorchymyn hwnnw.
Diwygiwyd adran 6 gan adran 1(3) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2) (“Deddf 2015”) (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn adran 1(4) a (5) o Ddeddf 2015) a pharagraff 443 o Atodlen 24 i Ddeddf Dedfrydu 2020 (“Deddf 2020”) (yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol yn adran 410 o Ddeddf 2020 ac Atodlen 24 iddi).
Diwygiwyd adran 69 gan reoliadau 23 a 24 o O.S. 2016/244.
Diwygiwyd adran 30 gan erthygl 3 o O.S. 2016/1031 a pharagraff 3(2)(a) a (b) o’r Atodlen iddo.
Mewnosodwyd gan adran 72 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015 (p. 9).
1982 p. 45. Diwygiwyd adran 52 gan adran 5 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Darpariaethau Canlyniadol) (Yr Alban) 1995 (p. 40) ac Atodlen 4 iddi, ac adran 16 o Ddeddf Amddiffyn Plant ac Atal Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2005 (dsa 9). Mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33). Diwygiwyd adrannau 52 a 52A gan adran 84 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33), adran 19 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2003 (dsa 7), ac adran 41 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010 (dsa 13) a pharagraff 13 o Atodlen 7 iddi.
2000 p. 44. Diddymwyd adran 3 o ran Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan baragraff 45 o Atodlen 6 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003. Fe’i diddymwyd o ran yr Alban gan Atodlen 6 i Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009.
Diddymwyd adrannau 81 and 83 gan adran 203(2) o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2001 (dsa 1) ac Atodlen 6 iddi. Diddymwyd adran 89 gan adran 120(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007 ac Atodlen 3 iddi.
Fe’i diddymwyd gan adran 105(5) o Ddeddf Plant (yr Alban) 1995 ac Atodlen 5 iddi.
1984 p. 37. Diwygiwyd adran 6 o ran yr Alban gan adran 105(4) o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 ac Atodlen 4 iddi.
Diddymwyd adrannau 60, 61 a 62 gan adran 80(1) o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 ac Atodlen 4 iddi, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn erthyglau 11 a 13 o O.S.A. 2002/162.
O.S. 2008/1769 (G.I. 2) (“Gorchymyn 2008”).
Diddymwyd adrannau 66, 69 a 70 o ran Gogledd Iwerddon gan erthygl 83 o Orchymyn 2008 ac Atodlen 3 iddo, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn y Gorchymyn hwnnw.
O.S. 1978/1047 (G.I. 17). Diwygiwyd erthygl 3 gan adran 84(10) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33) (“Deddf 1994”), adran 41(2) o Ddeddf 2000 a pharagraff 8 o Atodlen 1 i O.S. 2003/1247 (G.I. 13).
O.S. 1980/704 (G.I. 6). Mae erthygl 9 wedi ei dirymu a’i disodli gan erthygl 33 o Orchymyn 2008.
O.S. 1988/1847 (G.I. 17). Diwygiwyd erthygl 15 gan adrannau 84(11) a 86(2) o Ddeddf 1994 ac adran 41(4) o Ddeddf 2000.
Diddymwyd adrannau 16 i 19 yng Ngogledd Iwerddon gan erthygl 83 o Orchymyn 2008 ac Atodlen 3 iddo, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.
Diddymwyd adran 14 gan O.S. 1995/755 (G.I. 2).
Diddymwyd adran 9(1) gan O.S. 1995/755 (G.I. 2).
Dirymwyd erthyglau 79(3), 81(4), 95(3) a 97(4) gan erthygl 50(2) o O.S. 2003/431 (G.I. 9) ac Atodlen 5 iddo.
Diddymwyd adrannau 127 a 129 gan O.S. 1995/755 (G.I. 2).
Cyfraith Jersey 16/1969.
Cyfraith Jersey 50/2002.
Cyfraith Jersey 51/2002.
Gorchmynion yn y Llys Cyfrol IV, t. 288.
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol V, t. 74.
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol VIII, t. 273.
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol V, t. 243, fel y’u diwygiwyd gan Loi Supplémentaire à la Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes 1937, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor XI, t. 116, a Chyfraith Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc (Diwygio) 1955, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol XVI, t. 277.
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXIX, t. 103, fel y’u diwygiwyd gan Gyfraith Gweinyddu Cyfiawnder (Beilïaeth Guernsey) 1991, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXXIII, t. 49, Cyfraith Tystiolaeth Droseddol a Darpariaethau Amrywiol (Beilïaeth Guernsey) 2002, Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor Rhif I 2003, a Chyfraith Cyfiawnder Troseddol (Darpariaethau Amrywiol) (Beilïaeth Guernsey), 2006, Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor Rhif XIII 2006.
1979 p. 2. Diwygiwyd adran 170 gan adran 114 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (p. 60), O.S. 1996/2686, adran 75 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4) a pharagraff 8 o Atodlen 17 iddi, adran 111 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), O.S. 2015/664, adran 12 o Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), O.S. 2004/702 (G.I. 3), O.S. 2005/1966 (G.I. 16) ac adran 3 o Ddeddf Cyllid (Rhif 2) 1992 (p. 48) a pharagraff 7 o Atodlen 2 iddi.
1876 p. 36. Diwygiwyd adran 42 gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1993 (p. 50) a Deddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 2008 (p. 12).
Diddymwyd adran 72 o ran Gogledd Iwerddon gan erthygl 83 o Orchymyn 2008 ac Atodlen 3 iddo, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn y Gorchymyn hwnnw.
1995 p. 39. Diddymwyd adran 16B gan adran 61 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009 (dsa 9) ac Atodlen 6 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: