ATODLEN 2TROSEDDAU STATUDOL SYDD WEDI EU DIDDYMU
1
1
Trosedd o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 195663—
a
adran 1 (treisio);
b
adran 2 neu 3 (caffael menyw drwy fygythiadau neu haeriadau anwir);
c
adran 4 (rhoi cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach);
d
adran 5 (cyfathrach â merch o dan 13 oed);
e
adran 6 (cyfathrach â merch rhwng 13 ac 16 oed);
f
adran 14 neu 15 (ymosod anweddus);
g
adran 16 (ymosod gan fwriadu cyflawni sodomiaeth);
h
adran 17 (herwgydio menyw drwy rym neu oherwydd ei heiddo);
i
adran 19 neu 20 (herwgydio merch o dan 18 neu 16 oed);
j
adran 24 (cadw menyw mewn puteindy neu mewn mangre arall);
k
adran 25 neu 26 (caniatáu i ferch o dan 13 oed, neu rhwng 13 ac 16 oed, ddefnyddio mangre i gael cyfathrach);
l
adran 28 (achosi neu annog puteinio merch o dan 16 oed, cyfathrach â hi neu ymosodiad anweddus arni).
2
Trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster gyda Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc)64.
3
Trosedd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977 (ysgogi merch o dan 16 oed i gyflawni llosgach)65.
4
Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth)66.
5
6
Trosedd o dan adran 63(10) o Ddeddf 1989, paragraff 1(5) o Atodlen 5 iddi neu baragraff 2(3) o Atodlen 6 iddi (troseddau sy’n ymwneud â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant)69.
7
Trosedd o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 200170—
a
adran 21 (troseddau mewn perthynas â chofrestru),
b
adran 22 (datganiadau anwir mewn ceisiadau), neu
c
adran 29(10) (troseddau o dan reoliadau).
8
Trosedd o dan adran 71 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 200971 (caethwasiaeth, caethiwed a llafur o dan orfod neu lafur gorfodol).