ATODLEN 1GORCHMYNION ETC. SY’N YMWNEUD Â GOFALU AM BLANT

Penderfyniadau mewn perthynas ag addasrwydd P i ddarparu gofal24

Gwaharddiad a osodir ar unrhyw adeg o dan—

a

adran 69 o Ddeddf 1989, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 198047 neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958 (pŵer i wahardd maethu preifat)48,

b

erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (pŵer i wahardd maethu preifat),

c

adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pŵer i wahardd cadw plant maeth)49, neu

d

adran 59 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (pŵer i wahardd neu osod gwaharddiadau o dan faethu preifat).