Troseddau tramor4

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw P wedi ei gael wedi gwneud gweithred—

a

a oedd yn drosedd o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a

b

a fyddai’n drosedd a’i gwnâi’n ofynnol anghymhwyso person rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn pe bai wedi ei gwneud mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig.

2

Ym mharagraff (1), mae P “wedi ei gael wedi gwneud gweithred a oedd yn drosedd” os yw’r canlynol wedi digwydd o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig—

a

mae P wedi ei euogfarnu o drosedd (pa un a yw P wedi ei gosbi amdani ai peidio),

b

mae P wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd,

c

mae llys sy’n arfer awdurdodaeth o dan y gyfraith honno wedi gwneud mewn cysylltiad â throsedd ganfyddiad sy’n gyfwerth â chanfyddiad bod P yn ddieuog oherwydd gorffwylledd, neu

d

mae llys o’r fath wedi gwneud mewn cysylltiad â throsedd ganfyddiad sy’n gyfwerth â chanfyddiad bod P o dan anabledd ac iddo wneud y weithred y cyhuddwyd P ohoni.

3

Nid yw P wedi ei anghymhwyso o dan baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw ganfyddiad os yw’r canfyddiad hwnnw, o dan y gyfraith sydd mewn grym yn y wlad o dan sylw, wedi ei wrthdroi.

4

Mae gweithred sydd i’w chosbi o dan y gyfraith sydd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn drosedd o dan y gyfraith honno at ddibenion y rheoliad hwn ym mha ffordd bynnag y’i disgrifir yn y gyfraith honno.