Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cyfarwyddyd” (“direction”) yw cyfarwyddyd a wneir, neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 20023 ar y sail a nodir yn is-adran (4)(a), (b) neu (d) o’r adran honno4;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 19895;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 20006;
ystyr “gorchymyn perthnasol” (“relevant order”) yw—
- a
gorchymyn a wneir gan Lys y Goron, y Llys Apêl, y Llys Milwrol neu Lys Apêl y Llys Milwrol bod yr unigolyn o dan sylw yn cael ei dderbyn i’r ysbyty, neu
- b
gorchymyn gwarcheidiaeth7;
- a
mae i “mangre ddomestig” (“domestic premises”) yr ystyr a roddir gan adran 19(6) o’r Mesur;
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
ystyr “wedi ei anghymhwyso” (“disqualified”) yw wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru yn warchodwr plant neu’n ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o’r Mesur.
2
Yn y Rheoliadau hyn, mae person (“P”) wedi ei “gael wedi cyflawni” trosedd—
a
os yw P wedi ei euogfarnu o drosedd;
b
os yw P wedi ei ddyfarnu’n ddieuog o drosedd oherwydd gorffwylledd;
c
os cafwyd bod P o dan anabledd a’i fod wedi gwneud y weithred y mae wedi ei gyhuddo ohoni mewn cysylltiad â throsedd o’r fath;
d
os yw P, ar neu ar ôl 6 Ebrill 2007, wedi cael rhybuddiad gan swyddog heddlu mewn cysylltiad â throsedd;
e
os yw P, ar neu ar ôl 8 Ebrill 2013, wedi cael rhybuddiad ieuenctid gan swyddog heddlu mewn cysylltiad â throsedd y mae P wedi ei chyfaddef8.
3
Yn y Rheoliadau hyn, mae P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd sy’n “gysylltiedig â” throsedd os yw P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd fel a ganlyn—
a
ceisio cyflawni’r drosedd honno, neu gynllwynio neu ysgogi i’w chyflawni, neu
b
cynorthwyo i gyflawni’r drosedd honno, neu annog, cwnsela neu beri ei chyflawni.