NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/1066) (Cy. 224) (“Rheoliadau 2022”). Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r categorïau o bersonau sydd wedi eu hanghymhwyso rhag cofrestru yng Nghymru yn warchodwyr plant neu’n ddarparwyr gofal dydd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1) (“y Mesur”).

Ni chaiff personau sydd wedi eu hanghymhwyso o dan y Rheoliadau hyn weithredu fel gwarchodwyr plant yng Nghymru, darparu gofal dydd nac ymwneud â rheoli unrhyw ddarpariaeth gofal dydd. Ni chânt ychwaith fod wedi eu cyflogi mewn cysylltiad â gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn ynghyd ag Atodlen 1 iddynt yn nodi’r gorchmynion a’r penderfyniadau ynglŷn â gofalu am blant y mae person wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru mewn cysylltiad â hwy a goruchwylio’r plant hynny. Mae rheoliad 3, ynghyd ag Atodlenni 2 a 3, hefyd yn nodi categorïau o droseddau yn erbyn plant neu oedolion y mae person wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru mewn cysylltiad â hwy, neu droseddau sy’n ymwneud â’r plant hynny neu’r oedolion hynny. Mae rheoliad 3(10) yn egluro nad yw anghymhwyso yn gymwys i bersonau sydd wedi bod yn destun gorchmynion gofal neu oruchwylio eu hunain neu i ofalwyr maeth neu rieni mabwysiadol y mae plentyn sy’n destun neu a oedd yn destun gorchymyn gofal neu oruchwylio yn byw gyda hwy, oni wnaed y gorchymyn o ganlyniad i ofal y ceisydd hwnnw am y plentyn.

Mae rheoliad 4 yn nodi’r troseddau a gyflawnir dramor sy’n gymaradwy â’r troseddau a nodir yn y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 5 yn darparu bod personau sydd wedi eu cynnwys ar y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p. 14) wedi eu hanghymhwyso rhag cofrestru.

Mae rheoliad 6(1) a (2) yn darparu bod personau y mae cyfarwyddyd wedi ei wneud mewn cysylltiad â hwy o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) (a elwir yn Rhestr 99) wedi eu hanghymhwyso rhag cofrestru.

Mae rheoliad 7 yn nodi bod personau sydd wedi eu gwahardd rhag gweithgarwch rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o dan adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47) wedi eu hanghymhwyso rhag cofrestru.

Mae rheoliad 8 yn darparu bod person wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru yn warchodwr plant os yw’r person hwnnw yn byw gyda pherson arall sydd wedi ei anghymhwyso o dan y Rheoliadau hyn, neu’n byw ar aelwyd y mae person o’r fath wedi ei gyflogi ynddi ac yn gweithredu neu’n bwriadu gweithredu fel gwarchodwr plant mewn mangre ddomestig sydd hefyd yn gartref iddo.

Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer hepgor yr anghymwyso o dan amgylchiadau penodol. Pan fo cydsyniad Gweinidogion Cymru, neu awdurdod lleol cyn 1 Ebrill 2002, wedi ei roi, nid ystyrir bod person wedi ei anghymhwyso.

Mae rheoliad 9(2) yn nodi amgylchiadau pan na fo’r broses hepgor yn gymwys. Mae hyn pan fo unigolyn wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn, pan fo’r drosedd ei hun wedi ei diddymu ers hynny a phan fo’r llys sy’n dedfrydu wedi gorchymyn bod yr unigolyn yn cael ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant.

Mae rheoliad 10 yn nodi hawl i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru o ran pa un ai i roi cydsyniad i hepgor anghymhwyso o dan reoliad 9.

Mae rheoliad 11 yn darparu bod gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Mesur ddyletswydd i ddatgelu gwybodaeth i Weinidogion Cymru am fanylion unrhyw orchymyn, penderfyniad, euogfarn neu sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn. Mae’r rhwymedigaeth honno yn gymwys i wybodaeth sy’n ymwneud â’r person cofrestredig (ac i unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â’r person cofrestredig neu sydd wedi ei gyflogi ar yr aelwyd honno lle y mae’r person cofrestredig yn warchodwr plant). Mae methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd hon yn drosedd.

Mae rheoliad 12 yn dirymu Rheoliadau 2022 ac yn darparu ar gyfer diwygiad canlyniadol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.