Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Rhagfyr 2022 yn union ar ôl Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 20222.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cyfarwyddyd” (“direction”) yw cyfarwyddyd a wneir, neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 20023 ar y sail a nodir yn is-adran (4)(a), (b) neu (d) o’r adran honno4;

  • ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 19895;

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 20006;

  • ystyr “gorchymyn perthnasol” (“relevant order”) yw—

    1. a

      gorchymyn a wneir gan Lys y Goron, y Llys Apêl, y Llys Milwrol neu Lys Apêl y Llys Milwrol bod yr unigolyn o dan sylw yn cael ei dderbyn i’r ysbyty, neu

    2. b

      gorchymyn gwarcheidiaeth7;

  • mae i “mangre ddomestig” (“domestic premises”) yr ystyr a roddir gan adran 19(6) o’r Mesur;

  • ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;

  • ystyr “wedi ei anghymhwyso” (“disqualified”) yw wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru yn warchodwr plant neu’n ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o’r Mesur.

2

Yn y Rheoliadau hyn, mae person (“P”) wedi ei “gael wedi cyflawni” trosedd—

a

os yw P wedi ei euogfarnu o drosedd;

b

os yw P wedi ei ddyfarnu’n ddieuog o drosedd oherwydd gorffwylledd;

c

os cafwyd bod P o dan anabledd a’i fod wedi gwneud y weithred y mae wedi ei gyhuddo ohoni mewn cysylltiad â throsedd o’r fath;

d

os yw P, ar neu ar ôl 6 Ebrill 2007, wedi cael rhybuddiad gan swyddog heddlu mewn cysylltiad â throsedd;

e

os yw P, ar neu ar ôl 8 Ebrill 2013, wedi cael rhybuddiad ieuenctid gan swyddog heddlu mewn cysylltiad â throsedd y mae P wedi ei chyfaddef8.

3

Yn y Rheoliadau hyn, mae P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd sy’n “gysylltiedig â” throsedd os yw P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd fel a ganlyn—

a

ceisio cyflawni’r drosedd honno, neu gynllwynio neu ysgogi i’w chyflawni, neu

b

cynorthwyo i gyflawni’r drosedd honno, neu annog, cwnsela neu beri ei chyflawni.

Gofalu am blant a throseddau yn erbyn plant neu oedolion3

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (9), (10) ac (11) a rheoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un neu ragor o baragraffau (2) i (8) yn gymwys.

2

Mae unrhyw un neu ragor o’r gorchmynion neu’r penderfyniadau eraill a bennir yn Atodlen 1 wedi eu gwneud—

a

mewn cysylltiad â P,

b

sy’n atal P rhag cael ei gofrestru mewn perthynas ag unrhyw gyfleuster y mae plant yn derbyn gofal ynddo neu rhag bod yn rhan o reoli unrhyw gyfleuster o’r fath neu rhag ymwneud fel arall â darparu unrhyw gyfleuster o’r fath, neu

c

mewn cysylltiad â phlentyn sydd wedi bod yng ngofal P.

3

Mae gorchymyn wedi ei wneud mewn cysylltiad â P o dan adran 104 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 20039 er bod y drosedd wedi ei diddymu yng Nghymru a Lloegr.

4

Mae P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn o fewn ystyr “offence against a child” yn adran 26(1) o Ddeddf 200010 er bod y drosedd wedi ei diddymu.

5

Mae P—

a

wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath, neu

b

yn dod o fewn paragraff 2 o’r Atodlen honno,

er gwaethaf y ffaith bod y troseddau statudol yn yr Atodlen honno wedi eu diddymu.

6

Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd ac eithrio trosedd y cyfeirir ati ym mharagraff (4) neu (5) sy’n ymwneud ag anaf corfforol i blentyn neu farwolaeth plentyn.

7

Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd a bennir yn Atodlen 3 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath.

8

Mae P—

a

wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd, a gyflawnir yn erbyn person 18 oed neu’n hŷn, a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 200011 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath, neu

b

wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd, a gyflawnir yn erbyn person 18 oed neu’n hŷn, a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath y mae uwchlys wedi gosod gorchymyn perthnasol mewn cysylltiad â hi,

er gwaethaf y ffaith bod y troseddau statudol yn yr Atodlen honno wedi eu diddymu.

9

Nid yw P wedi ei anghymhwyso o dan baragraffau (1) i (8) mewn cysylltiad ag unrhyw orchymyn, penderfyniad neu drosedd—

a

os yw P wedi apelio’n llwyddiannus yn erbyn y gorchymyn, y penderfyniad neu’r euogfarn,

b

os yw rhybuddiad mewn cysylltiad â’r drosedd honno wedi ei dynnu’n ôl neu ei osod o’r neilltu,

c

os yw cyfarwyddyd sy’n seiliedig yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar y drosedd wedi ei ddirymu, neu

d

os yw gorchymyn wedi ei wneud o dan adran 12 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 200012 neu adran 79 neu 80 o’r Cod Dedfrydu13 sy’n rhyddhau P yn ddiamod neu’n amodol mewn cysylltiad â’r drosedd honno.

10

Nid yw P wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd paragraff (2)—

a

os yw gorchymyn wedi ei wneud o dan Ddeddf 1989 y lleolwyd P yng ngofal awdurdod lleol dynodedig neu gorff tebyg neu o dan oruchwyliaeth awdurdod neu gorff o’r fath odano, oni bai bod gorchymyn hefyd wedi ei wneud o ganlyniad i ofal P am ei blentyn ei hun, neu

b

pan fo P yn ofalwr maeth neu’n rhiant mabwysiadol i blentyn, a bo’r plentyn hwnnw yn cael neu wedi cael ei wneud yn destun gorchymyn gofal neu oruchwylio o dan Ddeddf 1989, oni bai bod y gorchymyn wedi ei wneud o ganlyniad i ofal P am y plentyn hwnnw.

11

Nid yw P wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru yn rhinwedd paragraff (2) mewn cysylltiad â gwrthod neu ganslo unrhyw gofrestriad o dan y darpariaethau a nodir ym mharagraff 23(c) o Atodlen 1—

a

os yw’r gwrthod neu’r canslo mewn cysylltiad â chofrestru ag asiantaeth gwarchod plant, neu

b

os yr unig reswm dros wrthod neu ganslo’r cofrestriad oedd methu â thalu unrhyw ffi a ragnodir o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 196814.

Troseddau tramor4

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw P wedi ei gael wedi gwneud gweithred—

a

a oedd yn drosedd o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a

b

a fyddai’n drosedd a’i gwnâi’n ofynnol anghymhwyso person rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn pe bai wedi ei gwneud mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig.

2

Ym mharagraff (1), mae P “wedi ei gael wedi gwneud gweithred a oedd yn drosedd” os yw’r canlynol wedi digwydd o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig—

a

mae P wedi ei euogfarnu o drosedd (pa un a yw P wedi ei gosbi amdani ai peidio),

b

mae P wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd,

c

mae llys sy’n arfer awdurdodaeth o dan y gyfraith honno wedi gwneud mewn cysylltiad â throsedd ganfyddiad sy’n gyfwerth â chanfyddiad bod P yn ddieuog oherwydd gorffwylledd, neu

d

mae llys o’r fath wedi gwneud mewn cysylltiad â throsedd ganfyddiad sy’n gyfwerth â chanfyddiad bod P o dan anabledd ac iddo wneud y weithred y cyhuddwyd P ohoni.

3

Nid yw P wedi ei anghymhwyso o dan baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw ganfyddiad os yw’r canfyddiad hwnnw, o dan y gyfraith sydd mewn grym yn y wlad o dan sylw, wedi ei wrthdroi.

4

Mae gweithred sydd i’w chosbi o dan y gyfraith sydd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn drosedd o dan y gyfraith honno at ddibenion y rheoliad hwn ym mha ffordd bynnag y’i disgrifir yn y gyfraith honno.

Rhestr y Ddeddf Amddiffyn Plant5

Mae person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 199915 (rhestr o’r rheini y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant) wedi ei anghymhwyso.

Cyfarwyddyd mewn perthynas â chyflogi athrawon etc.6

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn y rheoliad hwn yn gymwys i P.

2

Mae P yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd.

3

Mae enw P ar unrhyw restr a gedwir at ddibenion rheoliadau a wneir o dan erthygl 70(2)(e) neu 88A(1) a (2)(b) o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 198616.

Personau sydd wedi eu gwahardd rhag gweithgarwch rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant7

Mae person sydd wedi ei wahardd rhag gweithgarwch rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o fewn ystyr “barred from regulated activity relating to children” yn adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 wedi ei anghymhwyso.

Personau sy’n byw neu’n gweithio mewn mangre lle y mae person sydd wedi ei anghymhwyso yn byw8

Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw P—

a

i

yn byw ar yr un aelwyd â pherson arall sydd wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru, neu

ii

yn byw ar aelwyd y mae unrhyw berson o’r fath wedi ei gyflogi ynddi, a

b

yn gweithredu neu’n bwriadu gweithredu fel gwarchodwr plant mewn mangre ddomestig a ddefnyddir gan yr aelwyd y mae P yn aelod ohoni.

Hepgoriadau9

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fyddai person (“P”) wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3, 4, 6(1) a (3), neu 8 ond wedi datgelu i Weinidogion Cymru y ffeithiau a fyddai fel arall yn achosi bod P wedi ei anghymhwyso, a phan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig ac na fônt wedi tynnu’r cydsyniad hwnnw yn ôl, yna nid yw’r person, oherwydd y ffeithiau a ddatgelwyd felly, i’w ystyried fel pe bai wedi ei anghymhwyso at ddiben y Rheoliadau hyn.

2

Mewn perthynas â pherson a fyddai wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3(4), nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo llys wedi gwneud gorchymyn o dan adran 28(4), 29(4) neu 29A(2) o Ddeddf 200017.

3

Nid yw person wedi ei anghymhwyso os yw’r person, cyn 1 Ebrill 2002—

a

wedi datgelu’r ffeithiau a fyddai’n anghymhwyso’r person o dan y Rheoliadau hyn i awdurdod lleol priodol o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i Ddeddf 198918, a

b

wedi cael cydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod lleol hwnnw.

Apelau10

Mae unrhyw benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru o ran pa un ai i roi cydsyniad i hepgor anghymhwyso o dan reoliad 9(1) yn benderfyniad rhagnodedig at ddibenion adran 37(2)(a) o’r Mesur (apelau).

Dyletswydd datgelu11

1

Rhaid i berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Mesur (“person cofrestredig”) ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i Weinidogion Cymru—

a

manylion unrhyw orchymyn, penderfyniad, euogfarn neu sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru a wneir neu sy’n gymwys mewn perthynas â pherson a restrir ym mharagraff (2) sy’n golygu bod y person hwnnw wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn;

b

y dyddiad pryd y gwnaed y gorchymyn, y penderfyniad neu’r euogfarn neu pryd y cododd unrhyw sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru;

c

y corff neu’r llys a wnaeth y gorchymyn, y penderfyniad neu’r euogfarn a’r ddedfryd, os oes un, a osodwyd;

d

mewn perthynas â gorchymyn neu euogfarn, copi o’r gorchymyn perthnasol neu’r gorchymyn llys perthnasol a ardystiwyd gan y corff dyroddi neu’r llys dyroddi.

2

Y personau y mae rhaid darparuʼr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) mewn cysylltiad â hwy yw—

a

y person cofrestredig, a

b

unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â’r person cofrestredig neu sydd wedi ei gyflogi yn yr aelwyd honno.

3

Rhaid darparu’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ond beth bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau i’r adeg pan ddaeth y person cofrestredig yn ymwybodol o’r wybodaeth honno neu pan ddylai fod wedi dod yn ymwybodol yn rhesymol ohoni pe bai’r person cofrestredig wedi gwneud ymholiadau rhesymol.

4

Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (2)(b) ond yn gymwys mewn cysylltiad ag aelodau’r aelwyd neu’r rheini sydd wedi eu cyflogi yn aelwyd gwarchodwr plant cofrestredig.

5

Caiff Gweinidogion Cymru ystyried unrhyw honiad bod person cofrestredig wedi methu â bodloni gofynion y rheoliad hwn wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2 o’r Mesur (gan gynnwys canslo cofrestriad yn unol ag adran 31(1) o’r Mesur).

6

Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn yn euog o drosedd.

7

Mae person a ddyfernir yn euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu a diwygiad canlyniadol12

1

Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 wedi eu dirymu19.

2

Yn Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 201020, yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “wedi ei anghymhwyso”, ym mharagraff (a) ar ôl “(Anghymhwyso)” mewnosoder “(Rhif 2)”.

Julie MorganY Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru