Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 a daw i rym ar 7 Rhagfyr 2022.

2

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i athrawon ysgol yng Nghymru.

3

Yn y Gorchymyn hwn—

  • mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddir i “school teacher” gan adran 122(3) i (6) o Ddeddf Addysg 2002;

  • ystyr “y Ddogfen” (“the Document”) yw’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” ac a gyhoeddir ar wefan llyw.cymru4.