2022 No. 1184 (Cy. 243)
Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022
Made
Laid before Parliament
Coming into force
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1), 123 a 124 o Ddeddf Addysg 20021, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn unol ag adran 1263 o’r Ddeddf honno wedi ymgynghori â’r personau hynny a’r cyrff hynny y cyfeirir atynt yn yr adran honno yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn briodol.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 a daw i rym ar 7 Rhagfyr 2022.
2
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i athrawon ysgol yng Nghymru.
3
Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddir i “school teacher” gan adran 122(3) i (6) o Ddeddf Addysg 2002;
ystyr “y Ddogfen” (“the Document”) yw’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” ac a gyhoeddir ar wefan llyw.cymru4.
Y Ddogfen2
Mae’r darpariaethau a nodir yn adran 2 o’r Ddogfen yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2022 at ddibenion penderfynu—
a
y tâl ar gyfer athrawon ysgol, a
b
amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.
Dirymu3
Mae Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 20215 wedi ei ddirymu.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)