RHAN 2Estyn y cyfnod rhagarweiniol

Gweithdrefn adolygu penderfyniad i estyn y cyfnod rhagarweiniolI17

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i adolygiad a gychwynnwyd o dan adran 125B o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig (pa un a’i cwblhawyd cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw).

2

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaethau Rhagarweiniol (Adolygu Penderfyniadau i Estyn Cyfnod Treialu) (Cymru) 200658 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiadau y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt.

3

Nid yw rheoliadau a wnaed o dan baragraff 4(7) o Atodlen 4 i Ddeddf 2016 yn cael effaith mewn perthynas ag adolygiadau y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddynt.