RHAN 2Estyn y cyfnod rhagarweiniol
Adolygiad o benderfyniad i estyn y cyfnod rhagarweiniolI16
1
Mae cais am adolygiad a wnaed yn unol ag adran 125B57 o Ddeddf 1996 (adolygiad o benderfyniad i estyn y cyfnod prawf) cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan baragraff 4 o Atodlen 4 i Ddeddf 2016 (adolygiad y landlord o benderfyniad i estyn tenantiaeth ragarweiniol).
2
Mae adolygiad a gychwynnwyd o dan adran 125B o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig (pa un a’i cwblhawyd cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw) i’w drin fel pe bai wedi ei gynnal o dan baragraff 4 o Atodlen 4 i Ddeddf 2016.
3
Mae hysbysiad a roddwyd gan y landlord o dan adran 125B(5) o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig i gael effaith fel pe bai wedi ei roi o dan baragraff 4(5) o Atodlen 4 i Ddeddf 2016 (ac mae paragraff 5 o Atodlen 4 (adolygiad y llys sirol o benderfyniad i ymestyn) yn gymwys i hysbysiad o dan adran 125B(5) o Ddeddf 1996 sy’n cadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol, neu i fethu â rhoi hysbysiad yn unol â’r adran honno).