RHAN 1Achosion Adennill Meddiant

Tenantiaethau rhagarweiniolI14

1

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

a

adran 127(2)49 (achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig;

b

adran 128(1) a (5) (hysbysiad o achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig;

c

adran 129(1) (adolygiad o benderfyniad i geisio adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig;

d

adran 129(2), (5) a (6), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed y cais am adolygiad, neu pa un a gynhaliwyd yr adolygiad, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig);

e

adran 130(1) i (3)50 (effaith dechrau achos adennill meddiant), mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ar gyfer adennill meddiant o dŷ annedd a osodwyd o dan denantiaeth ragarweiniol a ddaeth i ben cyn y diwrnod hwnnw yn unol â’r adran honno.

2

Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 127 o Ddeddf 1996 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn), fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

3

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 127(1) ac (1A) o Ddeddf 1996 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan yr adran honno cyn y diwrnod penodedig.

4

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022, mae Rheoliadau Tenantiaid Rhagarweiniol (Adolygu) 199751 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag adolygiad a gynhelir o dan adran 129 o Ddeddf 1996 yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn (pa un a gynhelir yr adolygiad, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

5

Mae hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant o dan adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn peidio â chael effaith (ac ni chaniateir cychwyn unrhyw achosion adennill meddiant newydd gan ddibynnu ar yr hysbysiad)—

a

ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, neu

b

ar ddiwedd y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad fel y diwrnod y caniateir dechrau achos ar ei ôl yn unol ag adran 128(4) o Ddeddf 1996,

pa un bynnag yw’r cynharaf.

6

Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 128 o Ddeddf 1996 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.