RHAN 9Swyddogaethau Budd-dal Tai a Chredyd Cynhwysol

Darpariaeth drosiannol: swyddogaethau credyd cynhwysol: pennu lwfans tai lleolI118

1

At ddiben pennu lwfans tai lleol o dan erthygl 482 o Orchymyn 2013 ac Atodlen 183 (pennu lwfans tai lleol) iddo, am ba hyd bynnag y mae’n angenrheidiol cyfeirio at renti sy’n daladwy cyn y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf 2016 i rym, bernir mai gwerth y rhent a fyddai, ym marn y swyddog rhenti, wedi bod yn daladwy am gategori o annedd, a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn 2013, yng Nghymru a osodir o dan denantiaeth sicr, yw’r rhent a fyddai wedi bod yn daladwy mewn perthynas â’r categori perthnasol o annedd a osodir o dan gontract diogel neu safonol perthnasol.

2

Yn y rheoliad hwn ystyr “contract diogel neu safonol perthnasol” yw contract diogel neu safonol nad yw’r landlord yn bodloni amod y landlord yn adran 8084 o Ddeddf 1985 mewn perthynas ag ef.