RHAN 6Deddf Rhenti 1977
Darpariaethau arbed: tenantiaethau byrddaliol gwarchodedig a chontractau cyfyngedigI114
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1977 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—
a
Rhan 375 o Ddeddf 1977 (rhenti o dan denantiaethau rheoleiddiedig), mewn perthynas â chontract meddiannaeth a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth fyrddaliol warchodedig;
b
Rhan 576 o Ddeddf 1977 (rhenti o dan gontractau cyfyngedig), mewn perthynas â chontract meddiannaeth a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn gontract cyfyngedig.