RHAN 5Gwelliannau

Darpariaethau trosiannol: cynllun hawl i atgyweirioI113

1

Pan fo’r tenant, cyn y diwrnod penodedig, wedi cyflwyno hysbysiad yn hawlio’r hawl i atgyweirio o dan baragraff 3 o’r Atodlen i Reoliadau 1985 (hysbysiad tenant yn hawlio’r hawl i atgyweirio), mae Rheoliadau 1985 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod penodedig, fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn y diwrnod hwnnw yn ddarostyngedig i baragraff (2).

2

Pan fo’n briodol i roi effaith i’r rheoliad hwn, mae Rheoliadau 1985 i’w darllen fel pe bai “or contract holder (within the meaning given by section 7 (see also section 48) of the Renting Homes (Wales) Act 2016) under a secure contract (within the meaning given by section 8 of the Renting Homes (Wales) Act 2016)” wedi ei fewnosod ar ôl “secure tenant”, ym mhob lle y mae’n digwydd.