RHAN 5Gwelliannau

Darpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol: digolledu am welliannauI112

1

Mae adran 99B74 o Ddeddf 1985 (personau sy’n gymwys ar gyfer digollediad) a Rheoliadau 1994 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â gwelliannau a wnaed gan denant o dan denantiaeth ddiogel o dan adran 99A o Ddeddf 1985 a ddaeth i ben cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed cais am ddigollediad cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).

2

Heb leihau effaith paragraff (1), pan fo cais am gydsyniad i wella wedi ei wneud gan y tenant cyn y diwrnod penodedig (pa un a roddir cydsyniad o’r fath cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw), mae adran 99B o Ddeddf 1985 a Rheoliadau 1994 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod penodedig mewn perthynas â chontract diogel wedi ei drosi, ond fel pe bai—

a

cyfeiriad at gontract diogel yn dod i ben yn gyfeiriad at gontract diogel wedi ei drosi yn dod i ben ar ôl y diwrnod penodedig,

b

adran 99B(2)(b) i (f) a (3) o Ddeddf 1985 wedi ei hepgor (a Rheoliadau 1994 wedi eu dehongli yn unol â hynny), ac

c

rheoliad 3(2) o Reoliadau 1994 wedi ei hepgor.

3

Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r contract diogel wedi ei drosi yn dod i ben ar ôl y diwrnod penodedig oherwydd—

a

bod y Llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant ar un neu ragor o’r seiliau yn adran 157 (tor contract) neu 160 (seiliau rheoli ystad) o Ddeddf 2016, neu

b

bod y contract yn peidio â bod yn gontract diogel yn rhinwedd adran 116 o Ddeddf 2016 (gorchymyn sy’n arddodi contract safonol cyfnodol oherwydd ymddygiad gwaharddedig).